Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 2 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 13 Chwefror 2020
Amser:
09.30 -
10.38
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5943
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Bethan Sayed AC (Cadeirydd) Mick Antoniw AC John Griffiths AC Carwyn Jones AC David Melding AC Helen Mary Jones AC |
Tystion: |
Gerwyn Evans, Cymru Greadigol |
Staff y Pwyllgor: |
Martha Da Gama Howells (Ail Glerc) Angharad Roche (Dirprwy Glerc) |
Croesawodd y Cadeirydd aelodau'r Pwyllgor.
Atebodd y Dirprwy Weinidog gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor. Cytunodd swyddogion Llywodraeth Cymru i ddarparu ystadegau pellach yn ymwneud â lleoliadau cerddoriaeth sy'n hawlio gostyngiadau mewn cyfraddau busnes pan fydd y wybodaeth hon ar gael ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Hefyd, cytunodd swyddogion i ddarparu rhagor o wybodaeth am yr ymarfer cwmpasu ynghylch ymestyn prosiect Forté ar draws Cymru.
Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol i ofyn am ei sylwadau ar y llythyr gan Gomisiynydd y Gymraeg.
Nododd yr Aelodau y papur.
Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at y Gweinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ynghylch y methiant i recriwtio cyfarwyddwr masnachol ar gyfer Amgueddfa Cymru.
Derbyniodd yr Aelodau’r cynnig.
Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth.